Pan ballo ffafor pawb a'i hedd, Duw, o'i drugaredd odiaeth, Yn Dad, yn Frawd, yn Ffrind a fydd Ar gyfyng ddydd marwolaeth. Gwyn fyd y rhai dilëaist eu bai, Eu pechod, a'u hanwiredd: Gan roi iddynt nerth er cnawd a byd, I bara hyd y diwedd. Hir ddisgwyl 'rwyf, a hyn bob cam, Fel gwyliwr am y borau, Gael profi grym dy nefol ras, Yn difa'm hatgas feiau. Nid all un gelyn nac un bai Byth ddamnio'r rhai crediniol; Mae gwaed yr Oen, ag uchel lef, O fewn y nef yn eiriol. - - - - - Pan ballo ffafr pawb a'u hedd, Duw, o'i drugaredd odiaeth, Yn Dad, yn Frawd, yn Gyfaill fydd Ar gyfyng ddydd marwolaeth. O! Iesu cu, tosturia di, A rho i mi ddoethineb, I'th dewis di yn rhan i mi, Cyn myn'd i dragwyddoldeb. Cyn imi orwedd yn fy medd, Rho imi webb dy wyneb; Moli dy enw mawr a wnaf Hyd eithaf tragwyddoldeb.William Williams 1717-91
Tonau [MS 8787]: gwelir: Clodfored bawb ein Harglwydd Dduw Gwyn fyd y rhai dilëaist eu bai O Iesu cu tosturia di Rhaid imi gael pob gras pob dawn |
When the favour of all and their peace fades, God, of his excellent mercy, A Father, a Brother, a Friend shall be On the confining day of death. Blessed are they whose fault thou didst cancel, Their sin, and their untruth: While giving to them strength despite flesh and world, To endure until the end. Long waiting am I, and this every step, Like a watchmen for the morning, To get to experience the force of thy heavenly grace, Eradicating my detestable faults. No enemy nor any fault can Ever condemn believing ones; The blood of the Lamb is, with a loud cry, Within heaven interceding. - - - - - When the favour of all and their peace fades, God, of his excellent mercy, A Father, a Brother, a Friend shall be On the confining day of death. O dear Jesus, show thou mercy, And give me wisdom, To choose thee as my portion, Before going to eternity. Before I lie in my grave, Give me the countenance of thy face; Praise thy great name I shall do As far as the extremity of eternity.tr. 2016 Richard B Gillion |
When human help is at an end When human help is at an endHowell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953 Sweet Singers of Wales 1889 |